OwenWILLIAMSOwi Bach 14, Maes y Garnedd Bethesda. Dymuna Wil, Tom a Rich a'u teuluoedd, a Joyce, ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd atynt yn eu profedigaeth. Diolch i bawb am y rhoddion er cof, tuag at Ward Peblig, Ysbyty Eryri a diolch yn arbennig i'r staff yno am eu gofal tyner o Owi a'r teulu, yn ystod ei ddyddiau olaf. Diolch yn fawr i'r Parch Huw John Hughes am ei wasanaeth ac i bawb oedd yn bresennol yn yr Amlosgfa. Diolch hefyd i Richard a Dewi, cwmni H.O.Davies yr ymgymerwyr am eu trefniadau parchus ac urddasol. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates